09 Medi 2021
Annwyl Peredur
Trosolwg ariannol o’r Comisiwn Etholiadol
Diolch am eich llythyr dyddiedig 15 Gorffennaf 2021 ar Ddatganiad o Egwyddorion y Pwyllgor Cyllid sy’n berthnasol i gyrff sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru.
Bydd Pwyllgor y Llywydd yn trafod yr egwyddorion yn nhymor yr hydref. Byddaf yn argymell i’r Aelodau y dylai’r Pwyllgor fabwysiadu’r un egwyddorion wrth graffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson.
Yn gywir,
David Rees AS
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.